Wednesday 9 September 2015

Siarad hefo Sian Gwenllian

Siarad hefo Sian Gwenllian

Bydd Sian Gwenllian yn lansio ei hymgyrch ddydd Sadwrn fel ymgeisydd Plaid Cymru dros Arfon yn Etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf.  Esh i i siarad hefo Sian er mwyn darganfod mwy amdani hi a'i hymgyrch.




"Dwi'n meddwl bod isho llais cry' dros yr ardal yma," mae Sian Gwenllian yn cychwyn y sgwrs. "Mae 'na dueddiad bod y Gogledd yn cael ei anghofio yn y Cynulliad. Fyswn i'n gneud yn siwr bod ni ddim yn cael ein anghofio."

Mae'n amlwg wrth siarad hefo Sian fod ei hardal yn golygu lot iddi. Fel Cynghorydd dros Y Felinheli ers 2008, mae hi'n brysur iawn yn cymryd rhan yn ei chymuned, er enghraifft drwy ymwneud â menter y Felin Sgwrsio, "sydd yn fenter cymunedol, lle mae 'na gaffi wedi cael ei droi yn ganolfan cymdeithasol, ac mae 'na gyfla i bobol ddod at ei gilydd i gymdeithasu yn fanno."

Nid yn unig hyn, ond mae gwaith elusennol yn bwysig iawn i Sian. Er enghraifft, mae hi'n cyfranogi ym menter Felingylchu, sef siop ail-law sy'n codi arian at elusennau lleol.

Yn ôl Sian, mae'r "agweddau cymdeithasol o gymuned" yn hollbwysig, ac mae Felin Gylchu yn "rhoi cyfla i bobol o bob oedrannau i wirfoddoli yn eu pentra." Mae hi hefyd yn ymwneud ag ymgyrchoedd i gadw'r Felinheli'n daclus, sy'n "codi ymwybyddiaeth am faw cŵn ac am godi sbwriel," ac weithiau mae hi'n mynd allan efo plant Ysgol y Felinheli i godi sbwriel. "Dwi wrth fy modd yn gneud y gwaith cymunedol yma," mae hi'n deud.

Dwi'n gofyn iddi be' ydi'r sialens fwyaf sy'n wynebu Gogledd Cymru.

"Mae materion iechyd ar hyn o bryd yn fy mhoeni i'n arbennig...be' sy'n digwydd hefo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae gyno ni staff cydwybodol iawn, iawn ond mae 'na broblema' dybryd, a dwi'n teimlo bod y llywodraeth bresennol jyst ddim yn mynd i'r afael â nhw; ddim yn deall natur yr argyfwng sydd yn digwydd, ac ddim yn cynnig atebion." Mae Sian yn deud y byddai hi'n "cydweithio hefo pobol ar yr ochr iechyd yn sicr, achos dwi'n meddwl bod hwnna'n flaenoriaeth rwan i sortio allan be sy'n digwydd dros y Gogledd efo iechyd."

Dylid cofio mai Llywodraeth Lafur sydd mewn grym yn y Cynulliad, ac fod iechyd yn un o'u cyfrifoldebau nhw. Mae Sian yn feirniadol o record y Blaid Lafur yn y Cynulliad, gan ddeud nad oes ganddyn nhw weledigaeth, ac nad ydyn nhw'n gweithredu eu polisïau yn effeithiol.

 "Mae'n hanfodol cael gweledigaeth, ond ti angen pobol wedyn i droi petha'n realiti, ac mae'r ddau beth ar goll yna. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n gwbod yn union be' maen nhw isho'i wneud, ond dydyn nhw 'chwaith ddim i weld yn gwbod sut i symud petha' ymlaen...neu ddim efo'r awydd i symud petha' ymlaen".

Ond mae hi'n pwysleisio fod gan Blaid Cymru yr weledigaeth a'r "awydd i symud petha' ymlaen":

"'Da ni'n wahanol fel plaid. Mae gena ni dân yn ein bolia' dros ein gwlad ac er mwyn gwella ein gwlad, a gosod ein gwlad ni ymhlith gwledydd y byd. 'Da ni'n coelio mewn model o lywodraethu a model o gymdeithas sydd yn wahanol iawn i'r hyn sydd gyno ni yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd. "

Ceir nifer o broblemau yn y maes addysg hefyd, gyda Cymru'n llithro i lawr y tablau PISA ers 2007.

"Mae gynon ni athrawon gwych, ond mae'r biwrocratiaeth sydd yn y maes addysg yr un fath â'r biwrocratiaeth gyno ni yn y maes iechyd," mae Sian yn deud. "Mae 'na ormod o reoli o'r canol yng Nghymru. S'nam rhaid i bethau aros fel maen nhw, ond mae Llafur yn rhoi'r argraff bod ni methu gneud dim byd am hyn. Medran, ac mae'r grym yn ein dwylo ni i newid pethau."

Er hyn, mae Sian hefyd yn beirniadu'r llywodraeth Geidwadol bresennol yn Llundain, a'r llywodraeth glymblaid flaenorol, am wneud toriadau i'r gyllideb Gymreig. "Dwi yn cydymdeimlo hefo Llywodraeth Cymru achos fod Llywodraeth Prydain yn gneud toriad o £50 miliwn i'r Gyllideb Gymreig, ond tydy hynny ddim yn esgusodi eu record anfoddhaol nhw ym Mae Caerdydd."





Ym mis Mai, mae gan bobol Cymru gyfla i newid petha'. Mae polisi Plaid Cymru o recriwtio 1,000 o feddygon yn enghraifft o'r "gallu sydd gynnom ni fel plaid i droi ein gweledigaeth yn realiti". Hefyd, mae Plaid Cymru heddiw wedi cyhoeddi y byddan yn clustnodi £590 miliwn i wario ar yr NHS yng Nghymru, ac mae Sian Gwenllian yn ymgyrchu i gadw gwasanaeth mamolaeth llawn yn Ysbyty Gwynedd. Mae Sian o'r farn bod angen gwario'n gall fel ein bod ni'n gallu cael yr arian ar gyfer buddsoddi yn yr NHS:

"Tasa Plaid Cymru mewn grym, mi fyddan ni'n gneud gwell defnydd o'r arian. Er enghraifft, 'da ni ddim yn meddwl y dylid gwario £1 biliwn ar goridor yr M4. Mae'r rheilffordd angen cael ei drydaneiddio, ac mae'r A55 mewn cyflwr truenus."

Ond fel fydd yr etholiad yn agosau, byddwn yn clywed addewidion gan bob plaid. Dwi'n gofyn iddi be' sy'n gneud Plaid Cymru yn wahanol i'r pleidiau eraill.

"Mae Plaid Cymru yn wahanol i'r pleidiau eraill gan mai ni ydi Plaid Cymru. Mae'r pleidiau eraill i gyd yn ganghenau bach o'r pleidiau yn Llundain. Pwrpas Plaid Cymru ydi hyrwyddo buddiannau pobol Cymru a chreu cymdeithas decach."

Mae'n bwysig cydnabod llwyddiannau Plaid Cymru pan oedd y blaid yn rhan o'r llywodraeth rhwng 2007-2011. Yn ôl llawer o bobol, y cyfnod yna oedd yr un mwyaf effeithiol o ran llywodraethiant yng Nghymru ers i ni gael Cynulliad. Sefydlodd Plaid Cymru, fel rhan o'r llywodraeth, gynlluniau blaengar i adfywio'r economi. Roedd Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones (Plaid Cymru), yn rhan o'r llywodraeth yna fel Gweinidog dros Dreftadaeth. Mae Sian yn sôn am ei lwyddiannau o fel gweinidog:

"Byddai'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a'r ehangu mawr sydd 'di digwydd mewn cyrsia' cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru, erioed 'di digwydd oni bai am fod Alun Ffred Jones a Phlaid Cymru yn rhan o'r llywodraeth rhwng 2007-2011. A byddai'r pwerau deddfu a'r Deddf Iaith ychwaith heb ddigwydd heblaw fod Plaid Cymru wedi bod yn gwthio Llafur i wneud petha'."

Dwi'n ei holi hi am lwyddiannau Plaid Cymru yn Arfon:

"Mae 'na lwyddiant yn yr ystyr fod Plaid Cymru wastad wedi bod yn lais i bobol yr ardal yma, ac mae 'na lwyddiant ymarferol hefyd. Mae ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd yn allweddol i'r ardal yma. Fysa hwnna ddim gynno ni ar wahan i Alun Ffred a Phlaid Cymru."

Mae Sian hefyd yn clodfori Hywel Williams, Aelod Seneddol (Plaid Cymru) Arfon: "Chwaraeodd Hywel Williams ran hollbwysig yn yr ymgyrch yn erbyn cael peilonau ar draws yr Afon Fenai, ac mae o'n ymgyrchu'n gry' dros gael signal band-eang ym mhob rhan o Arfon."

Symudon ni ymlaen at wleidyddiaeth San Steffan. Roedd Sian yn feirniadol iawn o agenda toriadau y llywdoraeth Geidwadol yn Llundain a'r llywodraeth Geidwadol-Rhyddfrydol flaenorol:

"Mae'r llywodraeth Dorïaidd yn Llundain mewn byd gwahanol i ni. Does ganddyn nhw ddim syniad sut mae pobol gyffredin yn byw. Tydyn nhw heb fod mewn sefyllfa i weld sut mae'u penderfyniadau nhw'n cael effaith ar bobol gyffredin o ddydd i ddydd. Mae'u syniadau nhw'n hollol wahanol. Maen nhw'n dod o safbwynt yr unigolyn, a dydyn nhw ddim yn coelio mewn grym cymuned. Mae'r toriadau 'mae'r cynghorau sir yn gorfod eu gneud yn dod yn uniongyrchol o'r llywodraeth Geidwadol yn Llundain. Dwi'n meddwl mai rwbath hollol ideolegol ydi hwn, a'u bwriad nhw ydi datgymalu'r sector gyhoeddus."

Mae Sian yn pwysleisio'r pwysigrwydd o'r sector gyhoeddus a'r sector breifat, a'r angen am gydweithrediad rhwng y ddwy sector ar lefel leol. Felly beth fyddai hi'n gneud i hybu'r economi leol yn Arfon?

"Fel Aelod Cynulliad, mi fyddai'n gweithio'n galed iawn i gryfhau'r economi yn yr ardal yma. Mi ydan ni angen datblygu'r busnesa' a'r sectora' sydd yma'n barod. Mae twristiaeth, gweithgareddau awyr agored, y sector ynni a'r diwydiannau creadigol yn bwysig iawn i economi Arfon, ac mae yna botensial i ddatblygu'r sectorau yma ymhellach a rhoi mwy o gefnogaeth i fusnesau bach lleol."

Gofynnais iddi beth fyddai llywodraeth Plaid Cymru'n gneud i hybu busnesau bach a chanolig.




"Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dod â 70,000 o gwmniau Cymreig allan o drethiant, fel eu bod nhw'n gallu ehangu a hybu economi Cymru. Hefyd byddwn yn rhoi contractau cyhoeddus i gwmniau lleol lle mae hynny'n bosib."

Mae'r polisi yma'n un o nifer o syniadau ymarferol sydd gan Blaid Cymru i wella safonau byw pobol yng Nghymru. Ymhellach, mae Leanne Wood yn arweinydd sy'n barod i wrando ar syniadau pobol o fewn y blaid a thu hwnt, ac eto mae hi'n arweinydd cadarn ac egwyddorol. Yn ôl Sian, "mae pobol yn gweld Leanne Wood fel arweinydd, a byddai hi'n arwain tîm da o bobol sydd hefo'r weledigaeth a'r profiad 'da ni angen i weithredu polisïau fyddai'n arwain at welliannau yn yr economi, iechyd ac addysg yng Nghymru."

Siaradon ni am yr argyfwng ffoaduriaid, ac roedd gan Sian neges i David Cameron:

"Mae llywodraeth Prydain angen gneud mwy i groesawu ffoaduriaid o Syria. Rho dy hun yn dy 'sgidiau nhw, David Cameron."

Cyn cloi'r sgwrs, gofynnais iddi os oedd ganddi unrhyw beth arall i'w ddweud:

"Dwi'n benderfynol o fod yn Aelod Cynulliad effeithiol a gweithgar, yn llais cryf dros yr ardal gan gwffio'n cornel yng Nghaerdydd. Os 'da chi'n cefnogi gweld Cymru'n wlad gwell, mwy llewyrchus, mwy gwyrdd, tecach ac un sy'n croesawu pawb o bob cefndir, yna ym Mhlaid Cymru ddylach chi fod."


* Dewch i SADWRN SIAN, Dydd Sadwrn, y 12fed o Fedi.
Cyfarfod yn swyddfa Plaid Cymru ym Mangor, am 10a.m. 
70 High Street, LL57 1NR Bangor, Gwynedd.
Rhannu taflenni ynglŷn ag ymgyrch Sian. (Peidiwch â phoeni os 'da chi heb neud hyn o'r blaen, achos mi gewch chi help gan rai eraill, ac mae o'n ddigon syml!).

                                                 
* Dewch i GIG PLAID CYMRU, Dydd Sadwrn, y 12fed o Fedi yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon am 8p.m.
£6 flaen llaw ac £8 wrth drws. Medrwch chi brynu tocynau o flaen llaw ym Mhalas Print.

Bydd 50% o'r elw yn mynd i GISDA. 50% arall yn mynd at elusennau ffoaduriaid.