Saturday 15 November 2014

Plaid Cymru a Chenedlaetholdeb

Plaid Cymru a Chenedlaetholdeb

Un o gryfderau'r ymgyrch "Ie" yn refferendwm yr Alban, yn fy marn i, oedd y pwyslais a roddwyd ganddynt ar ddadleuon democrataidd, yn hytrach na rhai diwylliannol, dros annibyniaeth. Ceisiodd nifer o gefnogwyr  annibyniaeth ymbellhau eu hunain oddi wrth y term "cenedlaetholdeb", gan fynnu yn hytrach fod hunan-reolaeth yn beth naturiol i wlad ei gael. Roeddent am weld yr Alban yn chwarae rhan flaenllaw fel aelod o'r byd, a'r syniad oedd y byddai'r wlad honno'n esiampl i weddill y byd o ran pethau fel polisïau economaidd. Felly, rhyngwladolwyr, nid cenedlaetholwyr, oedd llawer o'r rheiny a bleidleisiodd "Ie". Creu cymdeithas decach oedd yr actifiwyr "Ie"'n ceisio'i wneud – nid cael annibyniaeth am resymau diwylliannol.

Pan mae'r cyfryngau Llundeinig yn rhoi sylw i'r SNP, Plaid Cymru, neu unrhyw grŵp o bobol sydd o blaid annibyniaeth, maen nhw'n mynnu defnyddio'r term "Nationalists", hefo "N" fawr, i'n disgrifio ni. Mae'r BBC hefyd yn euog o wneud hyn. Weithiau, mae'r term yn cael ei gwtogi i "Nats", yn fwriadol er mwyn ein gwawdio ni. Mae'r geiriau yma'n dycrhyn llawer o bobol. Pobol a allai fod yn bleidleiswyr Plaid. Dwi ddim yn meddwl bod angen egluro pam.

Dwi yn dallt fod yna wahanol fathau o genedlaetholdeb, ac os ydy Plaid Cymru yn blaid genedlaetholgar, yna mae hi'n gefnogol o civic nationalism, sydd yn hollol wrthwynebol o hiliaeth a senoffobia. Mae hyn yn hollol groes i ddelfrydau'r rheiny sy'n gefnogol o rai o fathau tywyllach a sinistr o genendlaetholdeb. Ond does gan y cyfryngau Llundeinig ddim diddordeb yn hyn. Mi wneith "Nationalists" neu "Nats" y tro i nhw. Yn fy marn i, mae hyn yn gwneud i ni edrych fel plaid ynysig, eithafol bron. Does yna ddim ynglŷn â Phlaid Cymru sydd yn ynysig nac yn eithafol. Plaid groesawgar ydy hi sydd eisiau i Gymru fod yn wlad normal – ac mae annibyniaeth yn rywbeth hollol normal i wledydd. Ond wrth gwrs, nod tymor-hir ydy hyn, ac mae Plaid yn dallt fod yn rhaid i sefyllfa economaidd Cymru wella'n sylweddol cyn y byddwn ni hyd yn oed yn agos at ddod yn wlad annibynol.

Dwi'n aelod o Blaid Cymru. Dwi o blaid annibyniaeth (fel nod tymor-hir (hefo refferendwm)). Dwi hefyd o blaid cyflwyno deddfwriaeth radical a phellgyrhaeddol er mwyn cynyddu'r nifer o bobol sy'n siarad Cymraeg, ac yn hollol gytûn hefo Cymdeithas yr Iaith o ran hyn. Dwi hefyd yn cydnabod y pwysigrwydd o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig, e.e. ein heisteddfodau. Cymraeg ydy fy iaith cynta i, ac fel rheol tydw i ddim yn siarad Saesneg hefo'r rheiny sy'n medru'r Gymraeg yn rhugl ond yn dewis peidio'i defnyddio hi. Er hyn i gyd, tydw i ddim yn ystyried fy hun yn genedlaetholwr Cymreig. Gwladgarol? – ydw, yn sicr. Ond dwi ddim yn licio cael fy ystyried yn "Welsh Nash", "Nationalist", neu yn waeth fyth, yn un o'r "Nats".

Mi fyswn i'n dadlau mai'r unoliaethwyr ydy'r cenedlaetholwyr go iawn – nid y nhw i gyd, ond yn sicr yr unoliaethwyr cryf. Oni bai am eu dadleuon economaidd, dadleuon cenedlaetholgar Brydeinig oedd gan Better Together. E.e., un o'u dadleuon nhw oedd fod y Deyrnas Gyfunol yn rhyw fath o deulu, a bod yr Alban yn bygwth chwalu'r deulu honno. Roedd y mwydro ynglŷn â'r "300 years of proud/shared history" a.y.y.b. hefyd yn enghraifft o hyn. Nid dadleuon rhesymegol oedd 'rhain, ond dadleuon cenedlaetholgar Brydeinig. Mae Prydain yn wych – dyna oedd eu hail prif ddadl, (ar ôl eu dadleuon economaidd negyddol). Roedd yr ymgyrch "Ie", ar y llaw arall, yn pwysleisio sut byddai'r Alban annibynol yn ffynnu'n economaidd, ac hefyd yn wlad decach yn economaidd. Roeddent hefyd yn pwysleisio dadl democrataidd sylfaenol – sef y dylai penderfyniadau ynglŷn â gwlad cael eu cynnal yn y wlad honno. Tydy hyn ddim yn safbwynt cenedlaetholgar. Safbwynt rhesymegol, democrataidd ydyw.

Os ydy Plaid Cymru isho cynyddu'u haelodau Cynulliad, yna mae'n rhaid i ni ennill mwy o gefnogaeth yn y De. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni feddwl am ein strategaethau etholiadol. Tydy brandio'n hunain yn blaid genedlaetholgar ddim yn mynd i ennill yr un pleidlais ychwanegol i'r Blaid. (Tydw i ddim yn dadlau fod hyn yn digwydd fodd bynnag). Mae pobol – yn y Gogledd a'r De – yn poeni am eu safonau byw, yr NHS, swyddi, addysg, a.y.y.b.: nid annibyniaeth (am y tro). O dan arwenyddiaeth Leanne Wood, mae Plaid Cymru'n ei gwneud hi'n glir ein bod ni ar ochr y bobol  gyffredin, ac yn gwrthwynebu'r consensws pro-toriadau, neo-liberal, y mae'r pleidiau Llundeinig yn eu cefnogi. Felly dwi'n hapus hefo strategaeth y Blaid, nid am resymau etholiadol yn bennaf, ond yn egwyddorol: mae cyfiawnder cymdeithasol yn rywbeth pwysig iawn i mi ac i'r Blaid. Mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn anferth, ac mae'n rhaid i rywun gwestiynu hyn.

Mae'n rhaid i Blaid Cymru guro Llafur ar ei tyrff ei hun. Mae'r prosiect New Labour dal mewn bodolaeth.  Byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cadw at yr agenda o doriadau, a byddent yn rhewi budd-daliadau plant. Pwy sydd am sefyll i fyny dros y tlotaf yn ein cymdeithas? Nid Llafur. Yn sicr nid y Toris a'u ffrindiau bach rhyddfrydol. Ac yn bendant nid Ukip. Dim ond Plaid Cymru all wneud hyn.

Felly mae talfu termau fel cenedlaetholdeb jyst yn cymlethu i'r etholwyr. Dwi ddim yn cyhuddo'r Blaid o wnued hyn. I'r gwrthwyneb: mae Leanne Wood wedi ei gwneud hi'n hollol amlwg fod Plaid i'r chwith o Lafur, ac yn fodlon herio'r status quo. Ond mae yna lawer o gefnogwyr Plaid yn y gogledd yn mynnu parhau i ystyried eu hunain yn "genedlaetholwyr". Nid yn unig fod y term yma, sy'n swnio'n waeth yn Saesneg, yn gallu gwneud i bobol gysylltu Plaid yn eu pennau hefo pethau sinistr iawn, ond mae o'n rhoi'r argraff i nifer mai plaid ar gyfer siaradwyr Cymraeg, ceidwadol hefo "c" fach, (be' bynnag mae hynna'n feddwl), dosbarth-canol a gogleddol  yn unig ydy hi. Wrth gwrs, tydy hyn ddim yn wir o gwbl: plaid ar gyfer pobol Cymru gyfan ydy Plaid Cymru. A gyda llaw, mae pobol yn y Gogledd hefyd yn poeni am eu safonau byw, swyddi, yr NHS ac addysg a.y.y.b., yr un fath â phobl yn y De.


Ymhellach, mae ystyriad ein hunain yn genedlaetholwyr yn beth hynod o Anglo-centric i'w wneud yn fy marn i. Mae hyn oherwydd fod yr unoliaethwyr yn mynnu'n labelu ni'n "Nationalists" er mwyn ceisio'n tanseilio ni. Does yna ddim byd yn genedlaetholgar am geisio gwneud eich gwlad yn le tecach a gwell i fyw. Mi fydd hunan-lywodraeth, ac yna annibyniaeth, yn rhan o hyn. Ond mae'n beth hollol normal i wledydd fod yn annibynol. Does dim rhaid defnyddio geiriau fel "cenedlaetholdeb" a "nationalism". Dwi'n meddwl y byddai Plaid Cymru yn well off hebddynt.