tag:blogger.com,1999:blog-50131923948218551012024-03-13T04:55:10.829-07:00Blog MwydrynSion Trewynhttp://www.blogger.com/profile/07217102143154403093noreply@blogger.comBlogger3125tag:blogger.com,1999:blog-5013192394821855101.post-92161701889600347642015-09-09T14:08:00.001-07:002015-09-10T06:19:08.676-07:00Siarad hefo Sian Gwenllian
Gwenllian<o:p></o:p>
Sian Gwenllian yn lansio ei hymgyrch ddydd Sadwrn fel ymgeisydd Plaid Cymru
dros Arfon yn Etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf. Esh i i siarad hefo Sian er mwyn darganfod
yma," mae Sian Gwenllian yn cychwyn y sgwrs. "Mae 'na dueddiad bod y
Gogledd yn cael ei anghofio yn y Cynulliad. Fyswn i'n gneud yn siwr bod ni ddim
yn cael ein anghofio." <o:p></o:p>
lot iddi. Fel Cynghorydd dros Y Felinheli ers 2008, mae hi'n brysur iawn yn
cymryd rhan yn ei chymuned, er enghraifft drwy ymwneud â menter y Felin
Sgwrsio, "sydd yn fenter cymunedol, lle mae 'na gaffi wedi cael ei droi yn
ganolfan cymdeithasol, ac mae 'na gyfla i bobol ddod at ei gilydd i gymdeithasu
yn fanno."<o:p></o:p>
i Sian. Er enghraifft, mae hi'n cyfranogi ym menter Felingylchu, sef siop
ail-law sy'n codi arian at elusennau lleol.
gymuned" yn hollbwysig, ac mae Felin Gylchu yn "rhoi cyfla i bobol o
bob oedrannau i wirfoddoli yn eu pentra." Mae hi hefyd yn ymwneud ag
ymgyrchoedd i gadw'r Felinheli'n daclus, sy'n "codi ymwybyddiaeth am faw
cŵn ac am godi sbwriel," ac weithiau mae hi'n mynd allan efo plant Ysgol y
Felinheli i godi sbwriel. "Dwi wrth fy modd yn gneud y gwaith cymunedol yma,"
mae hi'n deud. <o:p></o:p>
Gogledd Cymru. <o:p></o:p>
arbennig...be' sy'n digwydd hefo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae gyno ni staff
cydwybodol iawn, iawn ond mae 'na broblema' dybryd, a dwi'n teimlo bod y
llywodraeth bresennol jyst ddim yn mynd i'r afael â nhw; ddim yn deall natur yr
argyfwng sydd yn digwydd, ac ddim yn cynnig atebion." Mae Sian yn deud y
byddai hi'n "cydweithio hefo pobol ar yr ochr iechyd yn sicr, achos dwi'n
meddwl bod hwnna'n flaenoriaeth rwan i sortio allan be sy'n digwydd dros y Gogledd
efo iechyd."
Cynulliad, ac fod iechyd yn un o'u cyfrifoldebau nhw. Mae Sian yn feirniadol o
record y Blaid Lafur yn y Cynulliad, gan ddeud nad oes ganddyn nhw weledigaeth,
ac nad ydyn nhw'n gweithredu eu polisïau yn effeithiol. <o:p></o:p>
hanfodol cael gweledigaeth, ond ti angen pobol wedyn i droi petha'n realiti, ac
mae'r ddau beth ar goll yna. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n gwbod yn union be'
maen nhw isho'i wneud, ond dydyn nhw 'chwaith ddim i weld yn gwbod sut i symud
petha' ymlaen...neu ddim efo'r awydd i symud petha' ymlaen". <o:p></o:p>
a'r "awydd i symud petha' ymlaen":<o:p></o:p>
bolia' dros ein gwlad ac er mwyn gwella ein gwlad, a gosod ein gwlad ni ymhlith
gwledydd y byd. 'Da ni'n coelio mewn model o lywodraethu a model o gymdeithas
sydd yn wahanol iawn i'r hyn sydd gyno ni yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd.
Cymru'n llithro i lawr y tablau PISA ers 2007. <o:p></o:p>
biwrocratiaeth sydd yn y maes addysg yr un fath â'r biwrocratiaeth gyno ni yn y
maes iechyd," mae Sian yn deud. "Mae 'na ormod o reoli o'r canol yng
Nghymru. S'nam rhaid i bethau aros fel maen nhw, ond mae Llafur yn rhoi'r
argraff bod ni methu gneud dim byd am hyn. Medran, ac mae'r grym yn ein dwylo
ni i newid pethau." <o:p></o:p>
bresennol yn Llundain, a'r llywodraeth glymblaid flaenorol, am wneud toriadau
i'r gyllideb Gymreig. "Dwi yn cydymdeimlo hefo Llywodraeth Cymru achos fod
Llywodraeth Prydain yn gneud toriad o £50 miliwn i'r Gyllideb Gymreig, ond tydy
hynny ddim yn esgusodi eu record anfoddhaol nhw ym Mae Caerdydd."<o:p></o:p>
polisi Plaid Cymru o recriwtio 1,000 o feddygon yn enghraifft o'r "gallu
sydd gynnom ni fel plaid i droi ein gweledigaeth yn realiti". Hefyd, mae
Plaid Cymru heddiw wedi cyhoeddi y byddan yn clustnodi £590 miliwn i wario ar
yr NHS yng Nghymru, ac mae Sian Gwenllian yn ymgyrchu i gadw gwasanaeth
mamolaeth llawn yn Ysbyty Gwynedd. Mae Sian o'r farn bod angen gwario'n gall
fel ein bod ni'n gallu cael yr arian ar gyfer buddsoddi yn yr NHS:<o:p></o:p>
gwell defnydd o'r arian. Er enghraifft, 'da ni ddim yn meddwl y dylid gwario £1
biliwn ar goridor yr M4. Mae'r rheilffordd angen cael ei drydaneiddio, ac mae'r
A55 mewn cyflwr truenus." <o:p></o:p>
addewidion gan bob plaid. Dwi'n gofyn iddi be' sy'n gneud Plaid Cymru yn
wahanol i'r pleidiau eraill. <o:p></o:p>
mai ni ydi Plaid Cymru. Mae'r pleidiau eraill i gyd yn ganghenau bach o'r
pleidiau yn Llundain. Pwrpas Plaid Cymru ydi hyrwyddo buddiannau pobol Cymru a
chreu cymdeithas decach."<o:p></o:p>
blaid yn rhan o'r llywodraeth rhwng 2007-2011. Yn ôl llawer o bobol, y cyfnod
yna oedd yr un mwyaf effeithiol o ran llywodraethiant yng Nghymru ers i ni gael
Cynulliad. Sefydlodd Plaid Cymru, fel rhan o'r llywodraeth, gynlluniau blaengar
i adfywio'r economi. Roedd Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones (Plaid
Cymru), yn rhan o'r llywodraeth yna fel Gweinidog dros Dreftadaeth. Mae Sian yn
sôn am ei lwyddiannau o fel gweinidog: <o:p></o:p>
mawr sydd 'di digwydd mewn cyrsia' cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru,
erioed 'di digwydd oni bai am fod Alun Ffred Jones a Phlaid Cymru yn rhan o'r
llywodraeth rhwng 2007-2011. A byddai'r pwerau deddfu a'r Deddf Iaith ychwaith
heb ddigwydd heblaw fod Plaid Cymru wedi bod yn gwthio Llafur i wneud
petha'."<o:p></o:p>
wastad wedi bod yn lais i bobol yr ardal yma, ac mae 'na lwyddiant ymarferol
hefyd. Mae ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd yn allweddol i'r ardal yma. Fysa
hwnna ddim gynno ni ar wahan i Alun Ffred a Phlaid Cymru."<o:p></o:p>
(Plaid Cymru) Arfon: "Chwaraeodd Hywel Williams ran hollbwysig yn yr
ymgyrch yn erbyn cael peilonau ar draws yr Afon Fenai, ac mae o'n ymgyrchu'n
gry' dros gael signal band-eang ym mhob rhan o Arfon."<o:p></o:p>
Sian yn feirniadol iawn o agenda toriadau y llywdoraeth Geidwadol yn Llundain
a'r llywodraeth Geidwadol-Rhyddfrydol flaenorol:<o:p></o:p>
gwahanol i ni. Does ganddyn nhw ddim syniad sut mae pobol gyffredin yn byw.
Tydyn nhw heb fod mewn sefyllfa i weld sut mae'u penderfyniadau nhw'n cael
effaith ar bobol gyffredin o ddydd i ddydd. Mae'u syniadau nhw'n hollol
wahanol. Maen nhw'n dod o safbwynt yr unigolyn, a dydyn nhw ddim yn coelio mewn
grym cymuned. Mae'r toriadau 'mae'r cynghorau sir yn gorfod eu gneud yn dod yn
uniongyrchol o'r llywodraeth Geidwadol yn Llundain. Dwi'n meddwl mai rwbath
hollol ideolegol ydi hwn, a'u bwriad nhw ydi datgymalu'r sector gyhoeddus."
a'r sector breifat, a'r angen am gydweithrediad rhwng y ddwy sector ar lefel
leol. Felly beth fyddai hi'n gneud i hybu'r economi leol yn Arfon?<o:p></o:p>
iawn i gryfhau'r economi yn yr ardal yma. Mi ydan ni angen datblygu'r busnesa'
a'r sectora' sydd yma'n barod. Mae twristiaeth, gweithgareddau awyr agored, y
sector ynni a'r diwydiannau creadigol yn bwysig iawn i economi Arfon, ac mae
yna botensial i ddatblygu'r sectorau yma ymhellach a rhoi mwy o gefnogaeth i
fusnesau bach lleol."<o:p></o:p>
gneud i hybu busnesau bach a chanolig. <o:p></o:p>
Cymreig allan o drethiant, fel eu bod nhw'n gallu ehangu a hybu economi Cymru. Hefyd
byddwn yn rhoi contractau cyhoeddus i gwmniau lleol lle mae hynny'n bosib."<o:p></o:p>
gan Blaid Cymru i wella safonau byw pobol yng Nghymru. Ymhellach, mae Leanne
Wood yn arweinydd sy'n barod i wrando ar syniadau pobol o fewn y blaid a thu
hwnt, ac eto mae hi'n arweinydd cadarn ac egwyddorol. Yn ôl Sian, "mae
pobol yn gweld Leanne Wood fel arweinydd, a byddai hi'n arwain tîm da o bobol
sydd hefo'r weledigaeth a'r profiad 'da ni angen i weithredu polisïau fyddai'n
arwain at welliannau yn yr economi, iechyd ac addysg yng Nghymru."<o:p></o:p>
neges i David Cameron: <o:p></o:p>
ffoaduriaid o Syria. Rho dy hun yn dy 'sgidiau nhw, David Cameron."<o:p></o:p>
beth arall i'w ddweud: <o:p></o:p>
effeithiol a gweithgar, yn llais cryf dros yr ardal gan gwffio'n cornel yng
Nghaerdydd. Os 'da chi'n cefnogi gweld Cymru'n wlad gwell, mwy
llewyrchus, mwy gwyrdd, tecach ac un sy'n croesawu pawb o bob cefndir, yna ym
Mhlaid Cymru ddylach chi fod."
* Dewch i SADWRN SIAN, Dydd Sadwrn, y 12fed o Fedi.
achos mi gewch chi help gan rai eraill, ac mae o'n ddigon syml!). <o:p></o:p>
Nghlwb Pêl-droed Caernarfon am 8p.m. <o:p></o:p>
o flaen llaw ym Mhalas Print. <o:p></o:p>
ffoaduriaid. <o:p></o:p>
Nid ydy democratiaeth y Deyrnas Gyfunol yn berffaith. Mae
gennym, ar lefel San Steffan, system etholiadol hollol anghyfrannol sydd dim
ond yn elwa'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Mae diffyg dylanwad pleidleisiwyr yng
Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ganlyniadau Etholiadau Cyffredinol
hefyd yn warthus. Ar y llaw arall, gall un media
mogul  gael dylanwad arwyddocaol ar
agenda gwleidyddol rhan helaeth o'r Gorllewin. Ni ddylwn anghofio fod y tair
prif blaid unoliaethol, i raddau amrywiol, ym mhocedi'r cyfoethog. Er hyn, rydym
yn hynod o lwcus o'i gymharu â phobl sy'n byw mewn unbenaethau. I gymharu â
nifer o wledydd o amgylch y byd, mae democratiaeth yn y DG yn llwyddiannus dros
ben. <o:p></o:p>
Ond mae ein democratiaeth ni ar werth. Pwy sy'n prynu? Y corfforaethau
rhyngwladol siŵr iawn! Croeso i fyd y Transatlantic
Trade and Investment Partnership – neu TTIP. Mae'r Unol Daleithiau
America a'r Undeb Ewropeaidd yn bwriadu creu cyfres o gytundebau masnachol rhwng
y ddwy floc economaidd. Mae'r holl
broses o drafod y cytundeb, a gychwynnodd yn Chwefror 2014, wedi bod yn
gyfrinachol ac anemocrataidd, ac mae'n debyg mai'r unig reswm yr ydym yn gwybod
gymaint amdano ydy o ganlyniad i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI). Un o bwrpasau
TTIP ydy i leihau rheolaethau ar fusnesau mawr. Byddai hyn yn gwanhau
rheolaethau amgylcheddol, diogelwch bwydydd, yn ogystal â'r rheolaethau ar
fanciau sydd eisoes yn rhy wan. Mae gan yr UDA reolaethau bwyddydd llawer
gwanach na sydd gan yr Undeb Ewropeaidd. E.e. mae'n gyfreithlon yno i fusnesau
werthu cig eidion sydd yn cynnwys hormonau tyfiant all, yn ôl rhai, arwian at gancr. <o:p></o:p>
Nid yn unig hyn, ond bwriad arall TTIP yw i roi rôl
bwysig i gwmnïau Americanaidd yng ngwasanaethau cyhoeddus y DG a gwledydd
eraill yr Undeb Ewropeaidd. Byddai hyn yn arwain at breifateiddio'r NHS, ac hyd
yn oed ei dinistrio, yn y pen-draw. Mae rhai o gefnogwyr TTIP yn honi y
byddai'r NHS yn cael ei heithrio o'r gytundeb, ond nid oes gan y Ceidwadwyr
bolisi o'r fath. Mae'r Blaid Lafur o blaid eithrio'r NHS. Ond nid yw hyn yn
ddigon da. Beth fydd yn digwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus eraill? Cofiwn mai un o brif bwrpasau TTIP yw eu preifateiddio nhw
yn raddol. <o:p></o:p>
Credaf fod ein democratiaeth ni ar werth. Efallai mai un
o elfennau mwyaf maleisus TTIP yw'r Investor State Dispute Settlement – yr ISDS. Byddai'r ISDS yn rhoi'r un statws
gyfreithiol i gwmnïau rhyngwladol â sydd gan wledydd annibynnol. Hefyd,
byddai'r corfforaethau yma'n gallu swïo'r llywodraethau mewn llysoedd
cyfrinachol, rhyngwladol, a fyddai wedi'u sefydlu'n arbennig fel rhan o TTIP. Mae
perygl y byddai'r llysoedd yma yn ragfarnllyd o blaid y corfforaethau. Byddai'r
corfforaethau yma'n cael swïo llywodraethau os oes yna unrhyw bolisi yn bygwth eu helw. Mae hyn yn beth
dychrynllyd i'w ddychmygu, yn enwedig pan gofiwn y byddai corfforaethau
rhynglwadol yn cael eu trin yn hafal â gwledydd annibynol. <o:p></o:p>
Cymrodd cangen Asiaidd o'r cwmni tybaco Philip
Morris gamau cyfreithiol yn erbyn Awstralia ar ôl i lywodraeth y wlad honno
gyflwyno polisi o bacedi plaen ar gyfer sigarets. Sut? Wel, roedd Awstralia
wedi arwyddo cytundeb tebyg gyda Hong Kong yn 1993. <o:p></o:p>
Mae ymladd brwydrau cyfreithiol yn gostus iawn i wladwriaethau,
ac yn wastraff amser ac egni. Efallai yn y dyfodol weddol agos, mi fydd
llywodraeth y D.G., yn ogystal â llywodraethau gwledydd eraill yn yr Undeb
Ewropeaidd, yn ofn cyflwyno polisïau radical neu hyd yn oed camau pitw i
gyfieriad tegwch economaidd. Mae'r sbectrwm gwleidyddol Brydeinig yn gyfyng
iawn hyd yn oed ar hyn o bryd, gyda'r tair prif blaid unoliaethol yn ogystal â
Ukip yn cefnogi llymder. Hyrwyddant fathau gwahanol o Thatcheriaeth i'w gilydd –
ond yn y bôn, pleidiau neo-rhyddfrydol ydynt i gyd.<o:p></o:p>
Er mwyn i ddemocratiaeth allu gweithio'n effeithiol, mae
angen i'r holl ddadleuon o'r sbectrwm democrataidd gael eu clywed. Byddai TTIP
yn ei gwneud hi'n anoddach fyth i lywodraethau allu cymryd camau tuag at greu
cymdeithas decach. Byddai gwladoli unrhyw beth allan o'r cwestiwn. Mae polau
'piniwn yn awgrymu fod yn y mwyafrif o bobl yn y D.G. o blaid gwladoli'r
rheilffyrdd a'r cwmnïau ynni. Gallwn ddadlau o blaid neu'n erbyn gwneud hyn,
ond y pwynt yw, dylai llywodraeth, sydd wedi cael ei hethol yn ddemocrataidd,
gael yr hawl i wneud hyn os mai dyma yw ei dymuniad. Ni fyddai hyn yn cael
effaith niweidiol ar hawliau dynol unrhyw un. Er hyn, byddai materion o'r fath
allan o'r agenda yn llwyr...oherwydd byddai llywodraethau yn ofni pŵer y
corfforaethau yn fwy nag erioed. <o:p></o:p>
Nid oedd TTIP ar
faniffesto'r un blaid Brydeinig ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn 2010. Erbyn
hyn fodd bynnag, mae Llafur, y Ceidwadwyr y Lib-Dems a Ukip yn cefnogi TTIP. (Ukip
o blaid cytundeb Ewropeaidd?! ) Mae Plaid Cymru'n anghytuno. Mae pobol Cymru,
Prydain ac Ewrop yn haeddu gwell na hyn.
Ni ddylid gwerthu ein democratiaeth. Sion Trewynhttp://www.blogger.com/profile/07217102143154403093noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-5013192394821855101.post-50979975061900197922014-11-15T18:01:00.000-08:002015-01-07T11:19:48.697-08:00Plaid Cymru a Chenedlaetholdeb
Plaid Cymru a Chenedlaetholdeb
Alban, yn fy marn i, oedd y pwyslais a roddwyd ganddynt ar ddadleuon democrataidd, yn
hytrach na rhai diwylliannol, dros annibyniaeth. Ceisiodd nifer o
gefnogwyr annibyniaeth ymbellhau eu
hunain oddi wrth y term "cenedlaetholdeb", gan fynnu yn hytrach fod hunan-reolaeth
yn beth naturiol i wlad ei gael. Roeddent am weld yr Alban yn chwarae rhan
flaenllaw fel aelod o'r byd, a'r syniad oedd y byddai'r wlad honno'n esiampl i
weddill y byd o ran pethau fel polisïau economaidd. Felly, rhyngwladolwyr, nid
cenedlaetholwyr, oedd llawer o'r rheiny a bleidleisiodd "Ie". Creu
cymdeithas decach oedd yr actifiwyr "Ie"'n ceisio'i wneud – nid cael
annibyniaeth am resymau diwylliannol. <o:p></o:p>
Plaid Cymru, neu unrhyw grŵp o bobol sydd o blaid annibyniaeth, maen nhw'n
mynnu defnyddio'r term "Nationalists", hefo "N" fawr, i'n
disgrifio ni. Mae'r BBC hefyd yn euog o wneud hyn. Weithiau, mae'r term yn cael
ei gwtogi i "Nats", yn fwriadol er mwyn ein gwawdio ni. Mae'r geiriau
yma'n dycrhyn llawer o bobol. Pobol a allai fod yn bleidleiswyr Plaid. Dwi ddim
yn meddwl bod angen egluro pam. <o:p></o:p>
os ydy Plaid Cymru yn blaid genedlaetholgar, yna mae hi'n gefnogol o civic nationalism, sydd yn hollol
wrthwynebol o hiliaeth a senoffobia. Mae hyn yn hollol groes i ddelfrydau'r
rheiny sy'n gefnogol o rai o fathau tywyllach a sinistr o genendlaetholdeb. Ond
does gan y cyfryngau Llundeinig ddim diddordeb yn hyn. Mi wneith
"Nationalists" neu "Nats" y tro i nhw. Yn fy marn i, mae
hyn yn gwneud i ni edrych fel plaid ynysig, eithafol bron. Does yna ddim ynglŷn
â Phlaid Cymru sydd yn ynysig nac yn eithafol. Plaid groesawgar ydy hi sydd
eisiau i Gymru fod yn wlad normal – ac mae annibyniaeth yn rywbeth hollol
normal i wledydd. Ond wrth gwrs, nod tymor-hir ydy hyn, ac mae Plaid yn dallt
fod yn rhaid i sefyllfa economaidd Cymru wella'n sylweddol cyn y byddwn ni hyd
yn oed yn agos at ddod yn wlad annibynol. <o:p></o:p>
nod tymor-hir (hefo refferendwm)). Dwi hefyd o blaid cyflwyno deddfwriaeth
radical a phellgyrhaeddol er mwyn cynyddu'r nifer o bobol sy'n siarad
Cymraeg, ac yn hollol gytûn hefo Cymdeithas yr Iaith o ran hyn. Dwi hefyd yn
cydnabod y pwysigrwydd o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig, e.e. ein
heisteddfodau. Cymraeg ydy fy iaith cynta i, ac fel rheol tydw i ddim yn siarad
Saesneg hefo'r rheiny sy'n medru'r Gymraeg yn rhugl ond yn dewis peidio'i
defnyddio hi. Er hyn i gyd, tydw i ddim yn ystyried fy hun yn genedlaetholwr
Cymreig. Gwladgarol? – ydw, yn sicr. Ond dwi ddim yn licio cael fy ystyried yn
"Welsh Nash", "Nationalist", neu yn waeth fyth, yn un o'r
"Nats". <o:p></o:p>
cenedlaetholwyr go iawn – nid y nhw i gyd, ond yn sicr yr unoliaethwyr cryf. Oni
bai am eu dadleuon economaidd, dadleuon cenedlaetholgar Brydeinig oedd gan
Better Together. E.e., un o'u dadleuon nhw oedd fod y Deyrnas Gyfunol yn rhyw fath
o deulu, a bod yr Alban yn bygwth chwalu'r deulu honno. Roedd y mwydro ynglŷn â'r
"300 years of proud/shared history"
a.y.y.b. hefyd yn enghraifft o hyn. Nid dadleuon rhesymegol oedd 'rhain, ond
dadleuon cenedlaetholgar Brydeinig. Mae Prydain yn wych – dyna oedd eu hail
prif ddadl, (ar ôl eu dadleuon economaidd negyddol). Roedd yr ymgyrch
"Ie", ar y llaw arall, yn pwysleisio sut byddai'r Alban annibynol yn
ffynnu'n economaidd, ac hefyd yn wlad decach yn economaidd. Roeddent hefyd yn
pwysleisio dadl democrataidd sylfaenol – sef y dylai penderfyniadau ynglŷn â
gwlad cael eu cynnal yn y wlad honno. Tydy hyn ddim yn safbwynt
cenedlaetholgar. Safbwynt rhesymegol, democrataidd ydyw. <o:p></o:p>
mae'n rhaid i ni ennill mwy o gefnogaeth yn y De. Mae hyn yn golygu bod rhaid i
ni feddwl am ein strategaethau etholiadol. Tydy brandio'n hunain yn blaid genedlaetholgar
ddim yn mynd i ennill yr un pleidlais ychwanegol i'r Blaid. (Tydw i ddim yn dadlau fod hyn yn digwydd fodd bynnag). Mae pobol – yn y
Gogledd a'r De – yn poeni am eu safonau byw, yr NHS, swyddi, addysg, a.y.y.b.:
nid annibyniaeth (am y tro). O dan arwenyddiaeth Leanne Wood, mae Plaid Cymru'n
ei gwneud hi'n glir ein bod ni ar ochr y bobol
gyffredin, ac yn gwrthwynebu'r consensws pro-toriadau, neo-liberal, y
mae'r pleidiau Llundeinig yn eu cefnogi. Felly dwi'n hapus hefo strategaeth y
Blaid, nid am resymau etholiadol yn bennaf, ond yn egwyddorol: mae cyfiawnder
cymdeithasol yn rywbeth pwysig iawn i mi ac i'r Blaid. Mae'r bwlch rhwng y
cyfoethog a'r tlawd yn anferth, ac mae'n rhaid i rywun gwestiynu hyn.<o:p></o:p>
mewn bodolaeth. Byddai llywodraeth Lafur
yn San Steffan yn cadw at yr agenda o doriadau, a byddent yn rhewi
budd-daliadau plant. Pwy sydd am sefyll i fyny dros y tlotaf yn ein cymdeithas?
Nid Llafur. Yn sicr nid y Toris a'u ffrindiau bach rhyddfrydol. Ac yn bendant
nid Ukip. Dim ond Plaid Cymru all wneud hyn. <o:p></o:p>
cymlethu i'r etholwyr. Dwi ddim yn cyhuddo'r Blaid o wnued hyn. I'r
gwrthwyneb: mae Leanne Wood wedi ei gwneud hi'n hollol amlwg fod Plaid i'r
chwith o Lafur, ac yn fodlon herio'r status
quo. Ond mae yna lawer o gefnogwyr Plaid yn y gogledd yn mynnu parhau i
ystyried eu hunain yn "genedlaetholwyr". Nid yn unig fod y term yma,
sy'n swnio'n waeth yn Saesneg, yn gallu gwneud i bobol gysylltu Plaid yn eu
pennau hefo pethau sinistr iawn, ond mae o'n rhoi'r argraff i nifer mai plaid
ar gyfer siaradwyr Cymraeg, ceidwadol hefo "c" fach, (be' bynnag mae
hynna'n feddwl), dosbarth-canol a gogleddol yn unig ydy hi. Wrth gwrs, tydy hyn ddim yn
wir o gwbl: plaid ar gyfer pobol Cymru gyfan ydy Plaid Cymru. A gyda llaw, mae
pobol yn y Gogledd hefyd yn poeni am eu safonau byw, swyddi, yr NHS ac addysg
a.y.y.b., yr un fath â phobl yn y De. <o:p></o:p>
genedlaetholwyr yn beth hynod o Anglo-centric i'w wneud yn fy marn i. Mae hyn
oherwydd fod yr unoliaethwyr yn mynnu'n labelu ni'n "Nationalists" er
mwyn ceisio'n tanseilio ni. Does yna ddim byd yn genedlaetholgar am geisio gwneud
eich gwlad yn le tecach a gwell i fyw. Mi fydd hunan-lywodraeth, ac yna annibyniaeth, yn rhan o hyn. Ond mae'n beth hollol normal i wledydd fod yn annibynol. Does dim rhaid defnyddio geiriau fel "cenedlaetholdeb" a "nationalism". Dwi'n meddwl y byddai Plaid Cymru yn well off hebddynt. <o:p></o:p>
Sion Trewynhttp://www.blogger.com/profile/07217102143154403093noreply@blogger.com2