TTIP: Democratiaeth Ar Werth
Nid ydy democratiaeth y Deyrnas Gyfunol yn berffaith. Mae
gennym, ar lefel San Steffan, system etholiadol hollol anghyfrannol sydd dim
ond yn elwa'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Mae diffyg dylanwad pleidleisiwyr yng
Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ganlyniadau Etholiadau Cyffredinol
hefyd yn warthus. Ar y llaw arall, gall un media
mogul gael dylanwad arwyddocaol ar
agenda gwleidyddol rhan helaeth o'r Gorllewin. Ni ddylwn anghofio fod y tair
prif blaid unoliaethol, i raddau amrywiol, ym mhocedi'r cyfoethog. Er hyn, rydym
yn hynod o lwcus o'i gymharu â phobl sy'n byw mewn unbenaethau. I gymharu â
nifer o wledydd o amgylch y byd, mae democratiaeth yn y DG yn llwyddiannus dros
ben.
Ond mae ein democratiaeth ni ar werth. Pwy sy'n prynu? Y corfforaethau
rhyngwladol siŵr iawn! Croeso i fyd y Transatlantic
Trade and Investment Partnership – neu TTIP. Mae'r Unol Daleithiau
America a'r Undeb Ewropeaidd yn bwriadu creu cyfres o gytundebau masnachol rhwng
y ddwy floc economaidd. Mae'r holl
broses o drafod y cytundeb, a gychwynnodd yn Chwefror 2014, wedi bod yn
gyfrinachol ac anemocrataidd, ac mae'n debyg mai'r unig reswm yr ydym yn gwybod
gymaint amdano ydy o ganlyniad i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI). Un o bwrpasau
TTIP ydy i leihau rheolaethau ar fusnesau mawr. Byddai hyn yn gwanhau
rheolaethau amgylcheddol, diogelwch bwydydd, yn ogystal â'r rheolaethau ar
fanciau sydd eisoes yn rhy wan. Mae gan yr UDA reolaethau bwyddydd llawer
gwanach na sydd gan yr Undeb Ewropeaidd. E.e. mae'n gyfreithlon yno i fusnesau
werthu cig eidion sydd yn cynnwys hormonau tyfiant all, yn ôl rhai, arwian at gancr.
Nid yn unig hyn, ond bwriad arall TTIP yw i roi rôl
bwysig i gwmnïau Americanaidd yng ngwasanaethau cyhoeddus y DG a gwledydd
eraill yr Undeb Ewropeaidd. Byddai hyn yn arwain at breifateiddio'r NHS, ac hyd
yn oed ei dinistrio, yn y pen-draw. Mae rhai o gefnogwyr TTIP yn honi y
byddai'r NHS yn cael ei heithrio o'r gytundeb, ond nid oes gan y Ceidwadwyr
bolisi o'r fath. Mae'r Blaid Lafur o blaid eithrio'r NHS. Ond nid yw hyn yn
ddigon da. Beth fydd yn digwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus eraill? Cofiwn mai un o brif bwrpasau TTIP yw eu preifateiddio nhw
yn raddol.
Credaf fod ein democratiaeth ni ar werth. Efallai mai un
o elfennau mwyaf maleisus TTIP yw'r Investor State Dispute Settlement – yr ISDS. Byddai'r ISDS yn rhoi'r un statws
gyfreithiol i gwmnïau rhyngwladol â sydd gan wledydd annibynnol. Hefyd,
byddai'r corfforaethau yma'n gallu swïo'r llywodraethau mewn llysoedd
cyfrinachol, rhyngwladol, a fyddai wedi'u sefydlu'n arbennig fel rhan o TTIP. Mae
perygl y byddai'r llysoedd yma yn ragfarnllyd o blaid y corfforaethau. Byddai'r
corfforaethau yma'n cael swïo llywodraethau os oes yna unrhyw bolisi yn bygwth eu helw. Mae hyn yn beth
dychrynllyd i'w ddychmygu, yn enwedig pan gofiwn y byddai corfforaethau
rhynglwadol yn cael eu trin yn hafal â gwledydd annibynol.
Cymrodd cangen Asiaidd o'r cwmni tybaco Philip
Morris gamau cyfreithiol yn erbyn Awstralia ar ôl i lywodraeth y wlad honno
gyflwyno polisi o bacedi plaen ar gyfer sigarets. Sut? Wel, roedd Awstralia
wedi arwyddo cytundeb tebyg gyda Hong Kong yn 1993.
Mae ymladd brwydrau cyfreithiol yn gostus iawn i wladwriaethau,
ac yn wastraff amser ac egni. Efallai yn y dyfodol weddol agos, mi fydd
llywodraeth y D.G., yn ogystal â llywodraethau gwledydd eraill yn yr Undeb
Ewropeaidd, yn ofn cyflwyno polisïau radical neu hyd yn oed camau pitw i
gyfieriad tegwch economaidd. Mae'r sbectrwm gwleidyddol Brydeinig yn gyfyng
iawn hyd yn oed ar hyn o bryd, gyda'r tair prif blaid unoliaethol yn ogystal â
Ukip yn cefnogi llymder. Hyrwyddant fathau gwahanol o Thatcheriaeth i'w gilydd –
ond yn y bôn, pleidiau neo-rhyddfrydol ydynt i gyd.
Er mwyn i ddemocratiaeth allu gweithio'n effeithiol, mae
angen i'r holl ddadleuon o'r sbectrwm democrataidd gael eu clywed. Byddai TTIP
yn ei gwneud hi'n anoddach fyth i lywodraethau allu cymryd camau tuag at greu
cymdeithas decach. Byddai gwladoli unrhyw beth allan o'r cwestiwn. Mae polau
'piniwn yn awgrymu fod yn y mwyafrif o bobl yn y D.G. o blaid gwladoli'r
rheilffyrdd a'r cwmnïau ynni. Gallwn ddadlau o blaid neu'n erbyn gwneud hyn,
ond y pwynt yw, dylai llywodraeth, sydd wedi cael ei hethol yn ddemocrataidd,
gael yr hawl i wneud hyn os mai dyma yw ei dymuniad. Ni fyddai hyn yn cael
effaith niweidiol ar hawliau dynol unrhyw un. Er hyn, byddai materion o'r fath
allan o'r agenda yn llwyr...oherwydd byddai llywodraethau yn ofni pŵer y
corfforaethau yn fwy nag erioed.
Agoriad llygad..
ReplyDeleteGesh i sioc pan nesh i ddarllen am TTIP am y tro cyntaf, @LlyrT153.
Delete