Friday 2 January 2015

TTIP: Democratiaeth Ar Werth

TTIP: Democratiaeth Ar Werth

Nid ydy democratiaeth y Deyrnas Gyfunol yn berffaith. Mae gennym, ar lefel San Steffan, system etholiadol hollol anghyfrannol sydd dim ond yn elwa'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Mae diffyg dylanwad pleidleisiwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ganlyniadau Etholiadau Cyffredinol hefyd yn warthus. Ar y llaw arall, gall un media mogul  gael dylanwad arwyddocaol ar agenda gwleidyddol rhan helaeth o'r Gorllewin. Ni ddylwn anghofio fod y tair prif blaid unoliaethol, i raddau amrywiol, ym mhocedi'r cyfoethog. Er hyn, rydym yn hynod o lwcus o'i gymharu â phobl sy'n byw mewn unbenaethau. I gymharu â nifer o wledydd o amgylch y byd, mae democratiaeth yn y DG yn llwyddiannus dros ben.

Ond mae ein democratiaeth ni ar werth. Pwy sy'n prynu? Y corfforaethau rhyngwladol siŵr iawn! Croeso i fyd y Transatlantic Trade and Investment Partnership – neu TTIP. Mae'r Unol Daleithiau America a'r Undeb Ewropeaidd yn bwriadu creu cyfres o gytundebau masnachol rhwng y ddwy floc  economaidd. Mae'r holl broses o drafod y cytundeb, a gychwynnodd yn Chwefror 2014, wedi bod yn gyfrinachol ac anemocrataidd, ac mae'n debyg mai'r unig reswm yr ydym yn gwybod gymaint amdano ydy o ganlyniad i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI). Un o bwrpasau TTIP ydy i leihau rheolaethau ar fusnesau mawr. Byddai hyn yn gwanhau rheolaethau amgylcheddol, diogelwch bwydydd, yn ogystal â'r rheolaethau ar fanciau sydd eisoes yn rhy wan. Mae gan yr UDA reolaethau bwyddydd llawer gwanach na sydd gan yr Undeb Ewropeaidd. E.e. mae'n gyfreithlon yno i fusnesau werthu cig eidion sydd yn cynnwys hormonau tyfiant all, yn ôl rhai, arwian at gancr. 

Nid yn unig hyn, ond bwriad arall TTIP yw i roi rôl bwysig i gwmnïau Americanaidd yng ngwasanaethau cyhoeddus y DG a gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd. Byddai hyn yn arwain at breifateiddio'r NHS, ac hyd yn oed ei dinistrio, yn y pen-draw. Mae rhai o gefnogwyr TTIP yn honi y byddai'r NHS yn cael ei heithrio o'r gytundeb, ond nid oes gan y Ceidwadwyr bolisi o'r fath. Mae'r Blaid Lafur o blaid eithrio'r NHS. Ond nid yw hyn yn ddigon da. Beth fydd yn digwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus eraill? Cofiwn mai un o brif bwrpasau TTIP yw eu preifateiddio nhw yn raddol.  

Credaf fod ein democratiaeth ni ar werth. Efallai mai un o elfennau mwyaf maleisus TTIP yw'r Investor State Dispute Settlement – yr ISDS. Byddai'r ISDS yn rhoi'r un statws gyfreithiol i gwmnïau rhyngwladol â sydd gan wledydd annibynnol. Hefyd, byddai'r corfforaethau yma'n gallu swïo'r llywodraethau mewn llysoedd cyfrinachol, rhyngwladol, a fyddai wedi'u sefydlu'n arbennig fel rhan o TTIP. Mae perygl y byddai'r llysoedd yma yn ragfarnllyd o blaid y corfforaethau. Byddai'r corfforaethau yma'n cael swïo llywodraethau os oes yna unrhyw bolisi yn bygwth eu helw. Mae hyn yn beth dychrynllyd i'w ddychmygu, yn enwedig pan gofiwn y byddai corfforaethau rhynglwadol yn cael eu trin yn hafal â gwledydd annibynol.

Cymrodd cangen Asiaidd o'r cwmni tybaco Philip Morris gamau cyfreithiol yn erbyn Awstralia ar ôl i lywodraeth y wlad honno gyflwyno polisi o bacedi plaen ar gyfer sigarets. Sut? Wel, roedd Awstralia wedi arwyddo cytundeb tebyg gyda Hong Kong yn 1993.

Mae ymladd brwydrau cyfreithiol yn gostus iawn i  wladwriaethau, ac yn wastraff amser ac egni. Efallai yn y dyfodol weddol agos, mi fydd llywodraeth y D.G., yn ogystal â llywodraethau gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ofn cyflwyno polisïau radical neu hyd yn oed camau pitw i gyfieriad tegwch economaidd. Mae'r sbectrwm gwleidyddol Brydeinig yn gyfyng iawn hyd yn oed ar hyn o bryd, gyda'r tair prif blaid unoliaethol yn ogystal â Ukip yn cefnogi llymder. Hyrwyddant fathau gwahanol o Thatcheriaeth i'w gilydd – ond yn y bôn, pleidiau neo-rhyddfrydol ydynt i gyd.


Er mwyn i ddemocratiaeth allu gweithio'n effeithiol, mae angen i'r holl ddadleuon o'r sbectrwm democrataidd gael eu clywed. Byddai TTIP yn ei gwneud hi'n anoddach fyth i lywodraethau allu cymryd camau tuag at greu cymdeithas decach. Byddai gwladoli unrhyw beth allan o'r cwestiwn. Mae polau 'piniwn yn awgrymu fod yn y mwyafrif o bobl yn y D.G. o blaid gwladoli'r rheilffyrdd a'r cwmnïau ynni. Gallwn ddadlau o blaid neu'n erbyn gwneud hyn, ond y pwynt yw, dylai llywodraeth, sydd wedi cael ei hethol yn ddemocrataidd, gael yr hawl i wneud hyn os mai dyma yw ei dymuniad. Ni fyddai hyn yn cael effaith niweidiol ar hawliau dynol unrhyw un. Er hyn, byddai materion o'r fath allan o'r agenda yn llwyr...oherwydd byddai llywodraethau yn ofni pŵer y corfforaethau yn fwy nag erioed.

Nid oedd TTIP ar faniffesto'r un blaid Brydeinig ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn 2010. Erbyn hyn fodd bynnag, mae Llafur, y Ceidwadwyr y Lib-Dems a Ukip yn cefnogi TTIP. (Ukip o blaid cytundeb Ewropeaidd?! ) Mae Plaid Cymru'n anghytuno. Mae pobol Cymru, Prydain ac Ewrop yn haeddu gwell  na hyn. Ni ddylid gwerthu ein democratiaeth. 

2 comments: