Thursday, 23 February 2017

Rhyddid y wasg

Ysgreifennais erthygl ar gyfer cylchgrawn 'Y Llef'. Dyma fersiwn (dwi wedi newid mymryn) ohono:


Dan ni’n byw mewn cymdeithas rydd: mae’r ffaith fod y cylchgrawn yma’n gallu cyhoeddi dau safbwynt wrthgyferbyniol ar fater mor bwysig â hyn yn dangos hynny. Mae’n ddigon hawdd bawio ar ein rhyddid a mynnu sensoriaeth, ond y ffaith yw fod gennym yr hawl i wneud hynny dim ond oherwydd ein bod yn byw mewn cymdeithas rydd. Ni fyddai’n cymdeithas yn un rydd heb ryddid y wasg. Ond yn anffodus mae rhai o blaid rhoi terfyn ar hyn.


‘A ddylid gweithredu Section 40 o’r Crime and Courts Act 2013?’ gofynnodd llywodraeth San Steffan yn ddiweddar mewn ymghynghoriad cyhoeddus. Byddai gweithredu Section 40 yn gorfodi papurau newydd a chylchgronau nad ydynt yn ran o’r rheoleiddiwr gwladol, hyd yn oed pan yn fuddugol mewn achos llys, i dalu costau cyfreithiol yr hawliwr a’u rhai eu hunain. Nid yw cael rheoleiddiwr gwladwriaethol ar gyfer y wasg yn llesol mewn democratiaeth rhyddfrydol. Ond mae bygwth papurau newydd gyda chostau cyfreithiol anferthol, os nad ydynt yn ymynuno â rheoleiddiwr o’r fath, hyd yn oed yn waeth. Mae’r Guardian o’r farn na fyddent, yn erionig, wedi gallu dinoethi’r sgandal hacio ffonau yn y lle cyntaf pe byddai’r rheol abswrd yma wedi bod mewn bodolaeth. Ac ni fyddai’r Times wedi gallu cyhoeddi tystiolaeth o Aelodau Seneddol yn camddefnyddio’u treuliau yn 2009 pe byddai Section 40 wedi bod mewn grym bryd hynny. Byddai rhagor o reoliadau ar y wasg yn rhoi terfyn ar allu newyddiadurwyr i gynnal newyddiaduraeth ymchwiliadol, gan wneud y pwerus a’r cyfoethog yn llai atebol i’r cyhoedd.


Mae rheoleiddiwr Max Mosely, Impress, wedi cael ei gydnabod fel y rheoleiddiwr swyddogol. Mewn cyfweliad a’r BBC, cyfaddefodd Mosely fod arian y diweddar Oswald Mosely - sef ei dad ac arweinydd y British Union of Facists yn ystod 30’au - yn cael ei ddefnyddio i ariannu Impress, sy’n hollol eronig pan gofiwn mai’r chwith ‘progressive’ yw rhai o brif cenofnogwyr y jôc yma o reoleiddiwr. Roedd y dicter cyhoeddus a welwyd tuag at y wasg, yn dilyn y datguddiad fod News of the World wedi hacio ffôn Milly Dowler, yn hollol ddealladwy a dilys. Ond mae Mosely wedi bod mewn rhyfel personol â’r wasg ers iddyn nhw gyhoeddi manylion ynglyn â’i fywyd preifat. Mae’r ffaith fod selebs breintiedig â vendetta’n erbyn y wasg wedi egsboitio’r ymdeimlad yma, er mwyn rhoi terfyn ar ryddid y wasg, yn gywilyddus.


Yn nhyb rhai: ‘Mae angen stopio ffasgaeth + mae’r Daily Mail yn ffasgaidd, felly: mae angen sensora’r wasg’, sy’n hollol hyrt, gan fod hanes yn dysgu’r canlynol: Ffasgwyr yn dod i bŵer => Rhyddid y wasg yn dod i ben.


Yn wir, mae Trump wedi mynegi cefnogaeth dros gyfreithiau cyfyngedig Brydeinig ar y wasg, ac wedi awgrymu y bydd yn cyflwyno rheoliadau tebyg yn yr UDA. Mae’r chwith adweithiol a’r dde-eithafol yn gytun yn eu casineb tuag at y ‘mainstream media’, ac fel ei gilydd ni allent ddioddef beirniadaeth o’u syniadau. Os nad ydych chi’n hoff o senoffobia’r wasg asgell-dde: croeso i’r clwb. Ond nid ydy rhoi’n bysedd yn ein clustiau a mynnu sensoriaeth yn ddatrusiad i unrhyw broblem. Mae’n blentynnaidd, naïf, ac yn union fel cael strop. Rhaid curo syniadau gwael gyda rhai gwell, neu fel arall mi fydd y rheiny ohonom sydd ar y chwith-rhyddfrydol yn amhoblogaidd ac amherthnasol am amser hir.



Mae gen i gwestiwn ar gyfer cefnogwyr Impress: wrth gyflwyno rhagor o reoliadau ar y wasg, esiampl pa wlad dylai llywodraeth Prydain ei ddilyn? Mae’r Reporers sans frontiers wedi astudio rhyddid y wasg mewn 180 gwlad, ac wedi’u rhifo o 1 i 180, gydag 1 yn golygu ‘y mwyaf rhydd’ a 180 yn golygu ‘y lleiaf rhydd’. Y 10 gwlad mwyaf rhydd, o rif 1-10 yn y drefn honno, yw’r: Ffindir, Yr Iseldiroedd, Norwy, Denmarc, Seland Newydd, Costa Rica, Y Siwstir, Sweden, Iwerddon, Jamaica. A dyma’r gwledydd sydd ar waelod y rhestr, o rifau 171-180, yn y drefn honno: Ciwba, Dijbouti, Laos, Sudan, Fietnam, China, Syria, Turkmenistan, Gogledd Korea, Eirtrea. Byddai unrhyw un hanner call yn cydnabod na ddylwn ddilyn esiampl China, Ciwba neu Syria pan fo rhyddid myengiant mewn cwestiwn. Dylai Prydain, sydd ar hyn o bryd yn 38fed ar y rhestr, ymuno â’r top ten - nid llithro lawr y rhestr.

Mae Putin yn enwog am ladd newyddiadurwyr Rwsieg, ac mae unben Twrci, Erdogan, yn arestio newyddiadurwyr yn ei wlad yntau. Mae anffyddwyr sy’n blogio ar y wê yn cael eu llofruddio gan gangiau ffwndamentalaidd ym Mangladesh, a’u dienyddio gan y wladwriaeth yn Saudi Arabia ac Iran. Nid oes dim yn eangfrydig ynglŷn â gwrthwynebu rhyddid y wasg. Mae’n hanfodol fod gwledydd Gorllewinol yn gadarn yn ein gwerthoedd o ddemocratiaeth, rhyddid mynegaint, a hawliau dynol. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n dangos ein solidariaeth gyda phobl sy’n rhannu'r gwerthoedd yma ond yn byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhydd. Mae gennym ddyletswydd moesol i gynnig gobaith i’r bobl hyn fod system o gymdeithas rydd yn bosib, ac felly mae’n rhaid i ni sicrhau fod ein cymdeithasau ni yma’n y Gorllewin yn parhau i fod yn rhydd. Mae rhyddid y wasg yn ran annatod o hyn, a byddai unrhyw gyfyngiad pellach arno’n gam tuag at gyfeiriad totalitariaeth.

Dylwn ninnau ar y chwith ailddarganfod y gair cyntaf o foto’r Chwyldro Ffrengig: liberté.